Pwy Ydym Ni

Wedi’i leoli ym Mangor, wrth borth Parc Cenedlaethol Eryri yng Ngogledd Cymru, sefydlwyd y busnes gan Rob Leach. Mae wedi tyfu o arddio tirwedd i ymgymryd â phrosiectau adeiladu dan do ac yn yr awyr agored.

Rydym yn darparu prosiectau awyr agored cyflawn, o ddecio a phafinio i waith mewnol megis adeiladu ceginau a'u haddasu.

Gan fod gennym le i storio yn ein depo, rydym yn prynu deunyddiau ac agregau mewn swmp am brisiau cystadleuol. Mae hyn yn gost-effeithiol ac adlewyrchir hynny yn ein dyfynbrisiau ysgrifenedig.

Rydym yn adeiladu siediau ffrâm bren pwrpasol, o siediau potio â gwydr i bafiliynau criced. Gwneir planwyr, pergolas a chysgodfeydd unochrog hefyd yn ein depo.

Mae ein trwydded cludo gwastraff yn ein galluogi i waredu gwastraff yn gyfrifol, yn enwedig ar gyfer prosiectau dymchwel, gyda nodyn trosglwyddo ar gyfer pob llwyth.

I gleientiaid masnachol, rydym yn cynnig contractau cynnal a chadw tiroedd, gan gynnwys golchi â jet, marcio llinellau, clirio coed, cynllunio, plannu a ffensys diogelwch.

O brosiectau bach i ddatblygiadau mawr, gallwn ddarparu gwasanaeth penodol i reoli ystod eang o fathau o waith.

Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy.